Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt.

Mae 10 Gwobr Dewi Sant, a'r cyhoedd sy’n enwebu am 9 ohonynt:

  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Busnes
  • Chwaraeon
  • Dewrder
  • Diwylliant
  • Gweithiwr critigol (gweithiwr allweddol)
  • Pencampwr yr Amgylchedd
  • Person Ifanc
  • Ysbryd y Gymuned
  • Gwobr Arbennig

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw 31 Hydref 2022. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Enwebwch nawr | LLYW.CYMRU
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen