BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Diwydiant Chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) 2023

A yw eich sefydliad wedi cyflwyno mentrau rhagorol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant neu o ran hyrwyddo menywod mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol?

Efallai eich bod chi wedi bod yn arwain y ffordd o ran arloesi neu'r Gymraeg?

Neu a ydych chi'n gwneud gwahaniaeth o ran cynaliadwyedd neu effaith gymdeithasol yng Nghymru neu ei chymunedau?

Os ‘ydy/ydw’ yw’r ateb i unrhyw un o'r cwestiynau hynny, beth am roi cynnig ar Wobrau Cymdeithas Chwaraeon Cymru 2023.

Cynhelir y digwyddiad ar 8 Mehefin 2023 a bydd yn noson o ddathlu i gydnabod y gorau yn niwydiant chwaraeon a hamdden Cymru, hyrwyddo mentrau a llwyddiannau aelodau Cymdeithas Chwaraeon Cymru, gan hefyd sôn am fodelau a strategaethau arfer gorau sy'n helpu'r sector chwaraeon a hamdden Cymru i ddatblygu.

Dyma’r Gwobrau fydd ar gael ar y noson:

  • Menter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau
  • Menter Orau i Hyrwyddo Menywod mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol 
  • Gwobr Arloesedd Orau
  • Ymrwymiad Gorau i'r Gymraeg
  • Menter Cynaliadwyedd Orau
  • Menter Effaith Gymdeithasol Orau
  • Menter Cydweithrediad Orau (Cyfranogi, Nawdd neu Ymgysylltu ag Aelodau)
  • Ymgyrch Fwyaf Dylanwadol (Cyfathrebu, Cysylltiadau Cyhoeddus neu Eiriolaeth)

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Ebrill 2023. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol WSA Sports Industry Awards 2023 - WSA
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.