BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Gweithwyr Proffesiynol Ifanc Cymru 2023

Dathlu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ifanc!

Mae Gwobrau Proffesiynol Ifanc Cymru yn cydnabod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes. I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i chi fod yn 35 oed ac iau ar 5 Hydref 2023, ac yn gweithio yng Nghymru.

Mae'r categorïau eleni yn cynnwys:

  • Gweithiwr Cyllid Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn
  • Gweithiwr Bancio Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn
  • Gweithiwr Datblygu Busnes Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn
  • Gweithiwr Adeiladu Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn
  • Gweithiwr Digidol a Thechnoleg Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn
  • Cyfreithiwr Ifanc y Flwyddyn
  • Gweithiwr Yswiriant Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn
  • Gweithiwr Marchnata a Chyfryngau Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn
  • Gweithiwr Eiddo Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn
  • Recriwtiwr Ifanc y Flwyddyn
  • Gwirfoddolwr/Gweithiwr Trydydd Sector Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn
  • Prentis Ifanc y Flwyddyn
  • Myfyriwr Graddedig Ifanc y Flwyddyn
  • Gweithiwr Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Mehefin 2023.

I enwebu eich hun neu rywun arall am wobr, cliciwch ar y ddolen ganlynol 2023 | Young Professional Awards Wales

Os ydych chi'n 25 oed neu'n iau ac yn wynebu rhwystrau sy'n eich atal rhag dechrau busnes, yn chwilio am gyfleoedd newydd, neu os oes gennych syniad busnes gwych, yna gall Syniadau Mawr Cymru helpu. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Hafan | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.