BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Rhagoriaeth ac Arloesi IET 2023

Gallwch bellach wneud cais ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth ac Arloesi y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) 2023!

Mae'r Gwobrau'n cydnabod datblygiadau arloesol ac arferion gorau mewn Peirianneg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Yn 2023, gwahoddir y gymuned fyd-eang o entrepreneuriaid, arbenigwyr a chrewyr i adeiladu ecosystem sy'n rhoi effaith fesuradwy wrth wraidd arloesedd, a'i nod yw dathlu'r Peirianwyr sy’n defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i ddod o hyd i atebion i'r heriau mwyaf y mae dynolryw yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Dyma’r categorïau eleni:

  • Gwobr Sero Net a Gweithredu Newid Hinsawdd
  • Gwobr Cynaliadwyedd
  • Gwobr Pŵer ac Ynni
  • Gwobr Technoleg Iechyd
  • Gwobr Dinasoedd y Dyfodol a Thechnoleg Glyfar
  • Gwobr Cyfathrebu a TG
  • Gwobr Technoleg Ddatblygol y Flwyddyn
  • Gwobr Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg
  • Gwobr Symudedd y Dyfodol
  • Gwobr Technoleg ar gyfer Effaith Gymdeithasol
  • Gwobr Busnes Newydd y Flwyddyn
  • Arloeswr Ifanc y Flwyddyn (Dewis y Bobl)
  • Gwobr Prif Beiriannydd y Flwyddyn
  • Gwobr Tîm Peirianneg y Flwyddyn
  • Gwobr Seren Newydd y Flwyddyn 
  • Gwobr Ryngwladol (Cyflwyniadau y tu allan i'r DU ac Ewrop)

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am ddim yw dydd Gwener, 16 Mehefin 2023. Os byddwch yn cyflwyno eich cais ar ôl y dyddiad cau cynnar, sef 16 Mehefin, bydd angen i chi dalu ffi o £199 +TAW fesul cais (y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 7 Gorffennaf 2023).

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol The IET Excellence and Innovation Awards

Gall arloesi helpu eich busnes i fod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiannau a chyrchu marchnadoedd newydd. Mae'r tudalennau Syniadau Busnes ac Arloesi wedi cael eu cynllunio er mwyn i chi gael gwybod pa gefnogaeth a chyllid sydd ar gael i helpu eich busnes i arloesi. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Arloesi | Innovation (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.