
Mae’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth wedi cyhoeddi galwad am Wobrau SBARK y Rhwydwaith fel ffordd o annog y gymuned ymchwil a’r diwydiant i gydweithio ar brosiectau newydd. Mae’n rhaid bod y prosiectau’n ymwneud ag un o’r pedwar sector marchnad canlynol:
- da byw a dyframaethu
- bwyd a diod
- biotechnoleg ddiwydiannol
- planhigion a chnydau
Mae Gwobrau SPARK yn darparu cyllid i sefydlu prosiectau cydweithio newydd rhwng partneriaid ymchwil (Sefydliad Technoleg Ymchwil neu Brifysgol) a Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) yn y DU.
Mae gwerth sefydlog i’r grantiau, sef £10,000 (ynghyd ag unrhyw TAW berthnasol) ac fe’u dyfarnir i’r partner ymchwil er mwyn mynd i’r afael â phroblem sy’n berthnasol i’r BBaChau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Gwener 1 Tachwedd 2019.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth.