BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau STEM Cymru 2022

Mae gan Gymru lawer iawn i'w ddathlu o ran STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Mae Gwobrau STEM Cymru'n rhoi sylw i sêr STEM Cymru - y rheiny sy'n arwain y sector yng Nghymru, y busnesau hynny sy'n creu effaith ar economi Cymru, y rheiny sy'n mynd i'r afael â bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau STEM, y rheiny sy'n ysbrydoli ac yn codi dyheadau y genhedlaeth nesaf.

Bydd Gwobrau STEM Cymru 2022 yn cydnabod y mentrau entrepreneuraidd ac arloesol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth i'r sector STEM. 

I fod yn gymwys i gymryd rhan, rhaid i fusnesau fod wedi:

  • Dechrau masnachu ar neu cyn 18 Hydref 2021
  • Ei leoli yng Nghymru

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Medi 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Wales STEM Awards


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.