BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hawlio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Os na wnaethoch chi gyflwyno’ch hawliad ffyrlo mis Rhagfyr erbyn y dyddiad cau ar 14 Ionawr, efallai y bydd CThEM yn barod i’w dderbyn o hyd os oes gennych chi esgus rhesymol am beidio â hawlio erbyn y dyddiad cau, er enghraifft eich bod yn hunanynysu neu wedi gorfod aros yn yr ysbyty’n annisgwyl, a oedd yn golygu nad oeddech chi wedi gallu ei gwblhau.

Os yw’ch rheswm yn golygu y gallwch chi hawlio’n hwyr, gwnewch hynny cyn gynted â phosibl, a nodwch mai dim ond ar gyfer hawliadau hwyr o fis Tachwedd ymlaen y gellir defnyddio esgusodion rhesymol. Am ragor o wybodaeth am esgusodion rhesymol, ewch i GOV‌‌‌.UK.

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno’ch hawliadau ar gyfer mis Rhagfyr, ond eich bod angen eu newid gan nad oeddech chi wedi hawlio digon, gallwch wneud hyn tan ddydd Iau, 28 Ionawr 2021.

I weld sut gallwch ddiwygio’ch hawliad, ewch i GOV‌‌‌‌‌.UK.

Gallwch gyflwyno’ch hawliadau ar gyfer cyfnodau ym mis Ionawr yn awr. Mae’n rhaid eu cyflwyno erbyn dydd Llun 15 Chwefror 2021.

Gallwch hawlio cyn, yn ystod neu ar ôl i chi brosesu’ch cyflogres. Os allwch chi, y peth gorai i’w wneud yw hawlio unwaith y byddwch yn siŵr o’r union oriau y bydd eich gweithwyr yn eu gweithio fel nad ydych chi’n gorfod diwygio’ch hawliad yn ddiweddarach.

Does dim rhaid i chi a’ch gweithwyr fod wedi elwa ar y cynllun o’r blaen er mwyn cyflwyno hawliad. Gallwch weld a ydych chi’n gymwys a chyfrifo faint y gallwch chi ei hawlio drwy ddefnyddio cyfrifiannell y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ac enghreifftiau, ewch i GOV‌‌‌‌.UK.

Ffyrlo ar gyfer cyfrifoldebau gofalu

Gall eich gweithwyr ofyn am gael mynd ar ffyrlo gan fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu yn sgil y coronafeirws, fel gofal am blant sydd gartref gan fod yr ysgol neu wasanaeth gofal plant wedi cau. Gallwch eu rhoi ar ffyrlo a hawlio amdanynt o dan y cynllun.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.