BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Horizon Ewrop

Horizon Ewrop sy'n olynu Horizon 2020 fel rhaglen ymchwil ac arloesi flaenllaw nesaf yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cael ei chynnal rhwng 2021 a 2027 gyda chyllideb gwerth tua €100 biliwn.

Gan fod y DU yn Wlad Gysylltiedig, gall ymchwilwyr, busnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru gymryd rhan yn Horizon Ewrop ar delerau cyfatebol i rai’r aelod-wladwriaethau. Mae cyfleoedd ymgeisio cyntaf Horizon Ewrop ar agor ac mae sefydliadau'r DU yn gymwys i wneud cais.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae gan raglen Horizon Ewrop drwyddi draw gyfleoedd i Fusnesau Bach a Chanolig. Gyda chyllideb o €10 biliwn am y cyfnod 2021-2027, mae Cyngor Arloesi Ewrop (EIC) yn elfen newydd allweddol o Horizon Ewrop sy’n cefnogi busnesau bach a chanolig. Mae'r EIC yn cefnogi syniadau arloesol sydd â photensial o dorri tir newydd a tharfu a chael eu datblygu ar raddfa fawr, a allai fod yn ormod o risg i fuddsoddwyr preifat. I gael manylion am gyfleoedd, ewch i wefan Cyngor Arloesi Ewrop (europa.eu).   

Mae cyllid grant drwy SCoRE Cymru yn parhau i fod ar gael i sefydliadau yng Nghymru wneud ceisiadau o ansawdd uchel i Horizon Ewrop. 

Am ragor o wybodaeth a manylion ymgeisio, gweler: https://llyw.cymru/canllaw-score-cymru

Cysylltwch â Thîm Horizon Ewrop i gael manylion pellach:  HorizonEurope@gov.wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.