BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

IETF yn lansio cyfle ariannu Cam 1 Gwanwyn 2021

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ar y cyd ag Innovate UK, wedi lansio’r cyfle nesaf i wneud cais am arian o’r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF).

Bydd gan fusnesau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyfle arall i ymgeisio am hyd at £40 miliwn mewn cyllid grant drwy ffenestr gystadleuaeth Cam 1: Gwanwyn 2021 IETF.

Mae’r canllawiau i ymgeiswyr yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud cais am gystadleuaeth Cam 1: Gwanwyn 2021. Bydd y gystadleuaeth yn agor i geisiadau ar 8 Mawrth 2021 ac yn cau am 11am ddydd Mercher 14 Gorffennaf 2021.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Digwyddiad rhanddeiliaid Cam 1: Gwanwyn 2021 IETF
 
Mae BEIS yn cynnal gweminar briffio Cam 1: Gwanwyn 2021 IETF ar-lein ddydd Mercher 11 Mawrth 2021. Bydd y weminar o ddiddordeb i nifer o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol yn cynnwys cwmnïau gweithgynhyrchu, canolfannau data, arloeswyr ynni effeithlon a datgarboneiddio a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn cydweithio ar brosiect.
 
Mae BEIS yn bwriadu cynnal gwemniar friffio arall ar ôl i’r ffenestr ymgeisio agor. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal gweminar ar 24 Mawrth 2021 ar y cyd â’r KTN, i ddarparu canllaw ymarferol ar ymgeisio am gymorth a bydd cwmnïau’n cael cyfle i archebu nifer cyfyngedig o sesiynau cwmni 1 i 1 i drafod eu prosiectau posibl.

I archebu’ch lle, ewch i dudalen Dod o Hyd i Ddigwyddiad Busnes Cymru.
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.