BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio Cronfa Benthyciad Adfer newydd

Gall elusennau a mentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu ers o leiaf ddwy flynedd wneud cais nawr am fenthyciadau gwerth hyd at £1.5 miliwn gan Social Investment Business (SIB).

Gall sefydliadau cymwys wneud cais am fenthyciadau o rhwng £100,000 a £1.5 miliwn am dymor o flwyddyn i chwe blynedd, heb gosb am ad-dalu’n gynnar. Bydd sefydliadau dan arweiniad BAME a’r rheiny sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu’r Alban yn gallu gwneud cais am fenthyciadau hyd at £50,000.

Mae’r Gronfa Benthyciad Adfer (Recovery Loan Fund) newydd yn cymryd lle’r Gronfa Benthyciad Cadernid ac Adfer ac yn ceisio helpu sefydliadau sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19. Mae hefyd yn agored i sefydliadau sydd am ail-gyllido dyled tymor byr - bydd benthyciadau ar gyfer popeth yn cael eu hystyried, gan gynnwys ail-gyllido.

Y dyddiad cau yw dydd Sul, 21 Tachwedd 2021 a bydd ceisiadau yn cael eu hadolygu ar sail y cyntaf i’r felin.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan SIB.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.