BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio Cyfnod 1 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol i gefnogi busnesau ar y llwybr i Sero-Net

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio Cyfnod 1 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd y rhaglen gyllid yn cefnogi busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni i drawsnewid i ddyfodol carbon isel a lleihau eu hallyriadau drwy ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon a datgarboneiddio.

Bydd y cyllid Cyfnod 1 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn agor ym mis Gorffennaf a bydd werth hyd at £30 miliwn.

Mae cyllid ar gael ar ffurf cynllun grant ar gyfer:

  • Defnyddio technolegau effeithlonrwydd ynni aeddfed sy’n gwella effeithlonrwydd ynni prosesau diwydiannol a lleihau’r galw am ynni
  • Astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg ar gyfer prosiectau sy’n defnyddio technolegau effeithlonrwydd ynni aeddfed neu dechnolegau datgarboneiddio dwfn

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau Cyfnod 1 ar gyfer ymgeiswyr, ewch i wefan Gov.UK.

Digwyddiad rhanddeiliaid ar-lein Cyfnod 1 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol

Mewn cydweithrediad â’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth (KTN), mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ac Innovate UK yn trefnu dwy weminar briffio ar y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol ar 14 a 20 Gorffennaf 2020.

Bwriad y gweminarau hyn yw helpu busnesau i ddeall mwy am y Gronfa, cwmpas y gystadleuaeth a meini prawf cymhwyster sydd ar gael gan IUK a KTN. Bydd y digwyddiadau o ddiddordeb i gwmnïau gweithgynhyrchu, canolfannau data ac arloeswyr a gweithwyr proffesiynol ym maes effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio.

I gofrestru ar gyfer y gweminarau ar-lein, cliciwch ar y dolenni isod:

Mae Innovate UK hefyd wedi lansio gwasanaeth cymorth cwsmeriaid i ddarparu rhagor o wybodaeth am y broses o wneud cais, cyfeiriad e-bost - support@innovateuk.ukri.org

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.