BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio ymgyngoriadau yn ymwneud â’r Rheoliadau Ailgylchu ar gyfer Busnesau, y Cyhoedd a’r Trydydd Sector

Byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ddydd Mawrth, 7 Chwefror rhwng 3pm a 4pm. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r sesiwn anfonwch e-bost at RecyclingReformsConsultations@gov.wales

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Rheoliadau Ailgylchu ar gyfer y Sector Busnes, y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector, y disgwylir iddynt ddod i rym ym mis Hydref 2023. Bydd y diwygiadau a gynigir yn gwella ansawdd a lefel yr ailgylchu a wneir gan fusnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru trwy sicrhau eu bod yn gwahanu deunydd i’w hailgylchu yn yr un ffordd y mae’r rhan fwyaf o aelwydydd yng Nghymru eisoes yn ei wneud. 

Bydd hyn yn gyfraniad anferth i’r hyn rydyn ni’n ei wneud o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur, gan wireddu ein hymrwymiad yn Ailgylchu a Mwy a Sero Net Cymru gan roi’r diwygiadau ar waith i sicrhau arbedion carbon a buddiannau i’r economi. 

Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddulliau gorfodi i annog cydymffurfiaeth â rheoliadau arfaethedig a fydd yn gwella ansawdd a lefel yr ailgylchu o safleoedd annomestig. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru | LLYW.CYMRU

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 15 Chwefror 2023.

Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu: cod ymarfer Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ynghylch a yw'r cod ymarfer yn rhoi digon o ganllawiau o ran sut i fodloni'r gofynion gwahanu ar gyfer y rheoliadau ailgylchu annomestig arfaethedig. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu: cod ymarfer Cymru | LLYW.CYMRU

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 15 Chwefror 2023.

Yn dilyn ein dau ymgynghoriad yn 2013/14 ac yn 2019, nod yr ymgyngoriadau hyn yw ceisio barn ynghylch manylion y cod ymarfer (“y cod”) drafft a’r canllawiau ymarferol y mae’n eu darparu ar sut i fodloni’r gofynion gwahanu; y bwriad arfaethedig i gyflwyno’n raddol ffrydiau gwastraff penodol; a chynigion ar gyfer gorfodi’r Rheoliadau Ailgylchu ar gyfer y Sector Busnes, y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector. Mae eich adborth yn hanfodol i lywio drafft terfynol o’r cod a’r rheoliadau arfaethedig.

Ar ôl ystyried yr holl ymatebion, bydd crynodeb o’r ymatebion yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau at flwch negeseuon e-bost Ymgyngoriadau Diwygiadau Ailgylchu / Recycling Reforms Consultations: YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu@llyw.cymru

Rydym yn eich annog i rannu’r e-bost hwn â chysylltiadau a rhwydweithiau perthnasol a allai fod â diddordeb mewn ymateb i’r ymgyngoriadau.

Byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ddydd Mawrth, 7 Chwefror rhwng 3pm a 4pm. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r sesiwn anfonwch e-bost at RecyclingReformsConsultations@gov.wales
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.