BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llacio cyfyngiadau COVID yng Nghymru o 12 Ebrill 2021

O ddydd Llun 12 Ebrill 2021, bydd modd bwrw ati i lacio fel a ganlyn:

  • Bydd pob plentyn yn gallu dychwelyd i’r ysgol ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgolion yn gallu agor ar gyfer dysgu cyfunol wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr.
  • Gall yr holl siopau sy'n weddill ailagor, gan gwblhau’r broses o ailagor siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn raddol.
  • Gall yr holl wasanaethau cysylltiad agos sy'n weddill agor, gan gynnwys gwasanaethau symudol.
  • Bydd cyfyngiadau teithio ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae'r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon.
  • Gall ymweliadau i gael gweld lleoliadau priodas ailddechrau drwy apwyntiad.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi newidiadau pellach y mae'n bwriadu eu cadarnhau yn yr adolygiad ar 22 Ebrill 2021, gan ddibynnu ar yr amodau o ran iechyd y cyhoedd ac ar gael cadarnhad terfynol gan y Gweinidogion. Byddai'r newidiadau hyn yn cynnwys ailagor atyniadau awyr agored a lletygarwch awyr agored, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai ddydd Llun 26 Ebrill 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.