BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i amddiffyn busnesau rhag cael eu troi allan

Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan 25 Mawrth 2022.

Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu lesoedd am beidio â thalu rhent. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Medi 2021.

Bydd y mesur hwn yn sicrhau bod landlordiaid safleoedd masnachol perthnasol yn cael eu hatal rhag fforffedu lesoedd safleoedd o’r fath am beidio â thalu rhent tan 25 Mawrth 2022, ond dylai tenantiaid barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo modd. Mae er budd landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd i drafod ac i gytuno ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried pa fesurau pellach sydd angen eu rhoi ar waith, os o gwbl, mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent masnachol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig yng Nghymru ar ôl i'r moratoriwm ddod i ben. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.