BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru yn helpu i greu 25,000 o swyddi drwy ei gwasanaeth Busnes Cymru

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy'n dechrau, gweithredu a datblygu busnesau, wedi helpu i greu 25,000 o swyddi ledled Cymru ers 2016, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw.

Dywedodd y Gweinidog fod creu'r 25,000 o swyddi mewn busnesau bach a chanolig ledled Cymru drwy gymorth uniongyrchol gan Fusnes Cymru yn arwydd clir o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth a datblygu busnesau yng Nghymru, cyn dathlu Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang flynyddol eleni ar 8 i 12 Tachwedd 2021.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru, a lansiwyd yn 2015, yn darparu amrediad eang o gymorth busnes, gan gynnwys gwasanaethau cymorth cychwynnol, cymorth ar-lein, mannau gweithio a rennir, a gwasanaethau cyngor arbenigol, i helpu busnesau Cymru i dyfu a ffynnu. Ariennir y gwasanaeth yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Crëwyd 10,000 o'r swyddi hynny gan fusnesau a gafodd eu cefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rhaglen bwrpasol sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sydd am dyfu.

Darllenwch y cyhoeddiad ar Llyw.Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.