BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth San Steffan yn nodi amserlen newydd ar gyfer cyflwyno mesurau rheoli ffiniau

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi amserlen newydd ar gyflwyno rheolaethau mewnforio llawn ar gyfer nwyddau o'r UE i'r DU.

Bydd datganiadau a rheolaethau tollau llawn yn cael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2022 fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, er na fydd angen datganiadau diogelwch tan 1 Gorffennaf 2022.

O dan yr amserlen ddiwygiedig:

  • Bydd y gofynion rhaghysbysu am nwyddau iechydol a ffytoiechydol (SPS), a oedd i fod i gael eu cyflwyno ar 1 Hydref 2021, yn cael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2022.
  • Bydd y gofynion newydd ar gyfer tystysgrifau iechyd allforio, a oedd i fod i gael eu cyflwyno ar 1 Hydref 2021, yn cael eu cyflwyno ar 1 Gorffennaf 2022.
  • Bydd tystysgrifau ffytoiechydol a gwiriadau ffisegol ar nwyddau SPS mewn safleoedd rheoli ffiniau, oedd i fod i gael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2022, yn cael eu cyflwyno ar 1 Gorffennaf 2022.
  • Bydd datganiadau diogelwch ar fewnforion bellach yn ofynnol ar 1 Gorffennaf 2022 yn hytrach nag 1 Ionawr 2022. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.