BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried rhyddhad ychwanegol ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys

Gallai busnesau sy’n defnyddio llawer o drydan, fel gweithfeydd dur a phapur, gael rhyddhad ychwanegol o dan gynigion newydd i helpu i gymorthdalu eu costau trydan.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgynghori ar yr opsiwn i gynyddu lefel yr esemptiad ar gyfer rhai costau amgylcheddol a pholisi o 85% o gostau i hyd at 100%. Daw’r ymgynghoriad i ben am 11:45pm ar 16 Medi 2022.

Mae hyn yn adlewyrchu prisiau trydan diwydiannol uwch yn y Deyrnas Unedig na gwledydd eraill, gan gynnwys yn Ewrop, a allai rwystro buddsoddiad, cystadleuaeth a hyfywedd masnachol ar gyfer cannoedd o fusnesau mewn diwydiannau fel dur, papur, gwydr, serameg a sment, sy’n golygu bod perygl y gallent adleoli o’r Deyrnas Unedig.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Government to consider further relief for energy intensive industries - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.