BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru wedi bod yn llinell fywyd i'r sector, yn ôl adroddiad newydd

Roedd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, a oedd yn werth £108 miliwn, yn hanfodol i allu llawer o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru i oroesi yn ystod pandemig COVID-19, a helpodd i ddiogelu 2,700 o swyddi cyfwerth â llawnamser, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020 i 2021 lansiodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Adferiad Diwylliannol, cronfa a oedd yn rhoi cymorth ariannol i'r sectorau diwylliannol, creadigol a digwyddiadau ledled Cymru.
Dywedodd 94% o'r sefydliadau a holwyd ar gyfer adroddiad gwerthuso a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod y gronfa wedi chwarae rhan yn eu gallu i oroesi, gyda 57% yn dweud ei bod wedi bod yn hanfodol iawn i’w gallu i oroesi.

Gyda'r arian a gawson nhw, datblygodd dros hanner y sefydliadau creadigol a diwylliannol weithgareddau neu wasanaethau newydd mewn ymateb i'r pandemig, gan olygu bod y gronfa wedi galluogi dyfeisgarwch yn ogystal â chefnogi sefydliadau i ddatblygu meysydd busnes newydd ac arallgyfeirio eu ffrydiau refeniw. Mae gan hyn y potensial i wella cadernid y sector i reoli tarfu a chyfyngiadau gweithredol sy'n gysylltiedig â'r pandemig yn y dyfodol.

Roedd yr arian hefyd yn galluogi sefydliadau i gadw mewn cysylltiad â'u gwirfoddolwyr. Amcangyfrifir bod tua 77,000 o rolau gwirfoddol wedi cael eu diogelu drwy'r gronfa, yn amrywio o gyfleoedd i wirfoddoli unwaith, er enghraifft mewn digwyddiadau cyfranogol mawr, i gyfleoedd gwirfoddoli mwy hirdymor.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Mae Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru wedi bod yn llinell fywyd i'r sector, yn ôl adroddiad newydd | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.