BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio rhaglen hyblyg newydd i helpu pobl ifanc 16-18 oed i wireddu’u potensial ac i gymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio rhaglen hyblyg newydd i helpu pobl ifanc 16-18 oed i wireddu’r potensial ac i gymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith.

Nod y rhaglen Twf Swyddi Cymru + Mwy yw creu cyfleoedd all newid bywydau’r rheini nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.  Daw’n rhan sylfaenol hefyd o Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc sy’n anelu at sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yng Nghymru oherwydd y coronafeirws.

Bydd Twf Swyddi Cymru + Mwy yn creu pecyn personol o gymorth ac yn ymgorffori’r gorau o’r rhaglen Twf Swyddi Cymru a’r rhaglenni Hyfforddeiaethau a oedd yn llwyddiannus iawn.

Caiff y rhaglen ei lansio yn 2022 i helpu pobl 16-18 oed trwy gynnig cyngor ac arweiniad gyrfaol diduedd a manwl ar ôl cynnal asesiad o anghenion yr unigolyn trwy wasanaeth Cymru’n Gweithio.

Bydd pobl ifanc yn gallu manteisio ar wasanaethau mentora, cyngor, hyfforddiant ac addysg er mwyn gallu gwneud y dewisiadau gorau wrth chwilio am hyfforddiant neu waith teg neu wrth ddechrau busnes.  Bydd y rhaglen yn cynnwys cynnig cyfleoedd gwaith penodol gyda chymhorthdal o 50% o’r isafswm cyflog cenedlaethol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.