BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnachu gyda'r UE: Canllawiau newydd ar symud nwyddau

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2021
Diweddarwyd diwethaf:
12 Medi 2023

Cyfres fideos y Grŵp Cyflawni ar gyfer Ffiniau a Phrotocolau: Mae'r Grŵp Cyflawni wedi creu cyfres o fideos ar barodrwydd ffiniau ar ddiwedd y cyfnod pontio, am y canlynol:

Moving goods under transit: Mae rhifyn diweddaraf y Community, Common Transit and Transport International Routiers (TIR) bellach ar gael. Mae'r cylchlythyr yn canolbwyntio ar helpu masnachwyr i osgoi rhai problemau posibl wrth symud nwyddau. I weld hwn, a rhifynnau blaenorol o'r cylchlythyr, ewch i GOV.UK.

Llwythi cyfunol: Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Lloegr wedi bod yn gweithio gyda'u cymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon yn yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) ochr yn ochr â chludwyr, i sefydlu model cyfunol newydd a fydd yn helpu i symud y llwythi hyn i Ogledd Iwerddon. Yn dilyn treialon llwyddiannus gyda diwydiant (sy'n cynnwys mynd â nwyddau o Brydain i Ogledd Iwerddon), cytunwyd ar ddau fodel cyfunol: model hybiau cydgrynhoi a model llinol. Darllenwch y canllawiau cyfunol ar gyfer masnachwyr a chludwyr yma.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.