BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mesurau newydd i gynorthwyo cyfryngwyr tollau

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fydd y cyfnod pontio yn cael ei ymestyn ac y bydd mesurau rheoli ar gyfer mewnforio nwyddau yn gymwys nawr o fis Gorffennaf 2021.

Mae CThEM wedi datgelu pecyn newydd o fesurau a chyllid i gyflymu twf sector cyfryngwyr tollau'r DU - gan gynnwys broceriaid tollau, cwmnïau sy’n anfon llwythi ymlaen a gweithredwyr parseli cyflym - er mwyn helpu busnesau i fewnforio ac allforio eu nwyddau drwy sicrhau bod y gwaith papur tollau angenrheidiol wedi’i gyflawni.

Bydd ceisiadau ar gyfer y cyllid newydd ar gael o fis Gorffennaf a bydd CThEM yn datgelu mwy o fanylion maes o law.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.