BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

MIT Cynhadledd Rhithol Gymru

Sut allwn ni fod yn fwy arloesol? Sut mae dyfodol byd gwaith yn edrych a sut bydd technoleg yn newid ein bywydau? Sut mae rheolwr da yn rheoli newid?

Dyma rai o’r cwestiynau anodd sy’n cael eu holi gan arweinwyr busnes byd-eang sy’n ceisio addasu a ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae llawer o fusnesau yng Nghymru yn parhau i ddelio ag effaith pandemig COVID-19 ac maent yn parhau i ystyried beth mae ymadael â’r UE yn ei olygu iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle unigryw ichi ystyried y cwestiynau mawr hyn ar y cyd ag un o’r sefydliadau uchaf ei barch y byd: Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT).

Ar y cyd â Rhaglen Cyswllt Diwydiannol MIT (ILP), bydd gan Gymru gyswllt unigryw ag arweinwyr meddwl byd-eang yn MIT a fydd yn cyflwyno cyfres o seminarau rhyngweithiol ar amrywiaeth o bynciau.

Cynhelir y seminarau ar-lein am ddim ar 3, 10 a 17 Chwefror 2021 rhwng 1.15pm a 2pm.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i Digwyddiadur Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.