BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mynd i'r Afael ag Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle

Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn ymddygiad digroeso o natur rywiol sy'n treisio urddas gweithiwr neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu gas. Mae'n cael ei gydnabod o dan nifer o gytundebau a deddfau rhyngwladol fel gwahaniaethu ar sail rhyw ac mae'n rhaid cael gwared ag ef wrth greu cymdeithasau a gweithleoedd sy’n gyfartal o ran rhywedd.

Mewn ymdrech pedair cenedl i gael gwared ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle ar draws y DU, mae Chwarae TegFawcett Society, WRDA a Close the Gap wedi cyfuno i greu ymgyrch DU gyfan dros newid.

Mae pecyn cymorth o adnoddau sy'n canolbwyntio ar y cyflogwr wedi'i greu, gan gefnogi cyflogwyr i fod yn fwy rhagweithiol yn eu hymdrechion tuag at gael gwared ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. 

Bydd y pecyn cymorth yn:

  • Helpu cyflogwyr i ddeall beth yw aflonyddu rhywiol 
  • Rhoi hyder a sgiliau i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gwaith
  • Datblygu polisïau gwrth-aflonyddu rhywiol annibynnol
  • Creu diwylliannau sy'n rhydd o aflonyddu yn eu sefydliadau

Lawrlwythwch y pecyn cymorth: ROSA – Tackling sexual harassment in the workplace toolkit (office.com)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.