BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mynnwch elwa’n fwy o’ch gwyliau trwy wirfoddoli

Cyfleoedd gwyliau gwirfoddoli yng Nghymru

Mae gwirfoddoli fel rhan o wyliau yn gallu’ch helpu i ddysgu sgiliau newydd, lleihau costau yn gysylltiedig â theithio, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r lle rydych chi’n ymweld ag ef, neu elusen sy’n agos at eich calon. 

I’r rheiny nad ydynt yn gyfarwydd â’r term, mae gwyliau gwirfoddoli (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel twristiaeth gwirfoddoli (‘voluntourism’)) yn golygu bod twristiaid yn gwneud rhyw fath o waith fel rhan o’u taith.

Yn gyfnewid am hyn, gall ymwelwyr ennill profiad uniongyrchol mewn crefft sydd o ddiddordeb iddyn nhw, neu gael buddion, fel llety am ddim, sy’n helpu cadw costau’r gwyliau yn isel. Gall lleoliadau amrywio o ddiwrnodau i fisoedd, a gall dwysedd y gwaith amrywio o awr neu ddwy hamddenol yn y prynhawn i ddiwrnod llawn o waith caled gwirioneddol.

Mae digonedd o gyfleoedd am wyliau gwirfoddoli yng Nghymru. Mae Gwirfoddoli Cymru, ynghyd â safleoedd dynodedig fel Workaway a WWOOF (Worldwide Opportunities on Organic Farms), yn adnoddau gwych ar gyfer y rheiny sydd eisiau pori trwy’r profiadau amrywiol a gynigir.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Cyfleoedd am wyliau gwirfoddoli yng Nghymru | Croeso Cymru
 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.