BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Neges@Home – Ateb Cymreig i Hello Fresh

Gyda chynnydd sylweddol yn y niferoedd o bobl sydd wedi bod yn mynd ar wyliau lleol dros y cyfnod diweddar, mae cynllun newydd wedi ei lansio er mwyn annog ymwelwyr i wario mwy ar fwyd lleol yn ystod eu harhosiad. Cynllun Neges@Home, Menter Môn yw’r ateb i gadw gwariant ymwelwyr ar fwyd a diod yn lleol. 

Bydd Menter Môn yn gweithio gyda chynhyrchwyr a darparwyr lleol ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy i ddatblygu ystod o becynnau bwyd arloesol. Y bwriad ydi darparu’r cynhwysion perffaith ar gyfer penwythnos i ffwrdd neu achlysur arbennig. Byddent hefyd yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant hunan-arlwyo er mwyn sicrhau bod yr opsiwn lleol yr un mor gyfleus â’r archfarchnad!

Yn ogystal â blas o’r bwyd, bydd y cynllun Neges hefyd yn cynnig blas o’r rhanbarth. Bydd yr ymdeimlad o le yn cael ei greu trwy ddefnyddio deunydd sy’n amlygu’r iaith Gymraeg, treftadaeth, tirwedd, hanes a mwy. Er mwyn rhannu syniadau, cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a rhannu arferion da bydd y prosiect yn gweithio ar y cyd gyda’r mentrau iaith lleol. 

Er mwyn helpu cyflawni’r prosiect, mae Neges@Home yn chwilio am 5 o gynhyrchwyr bwyd a diod i weithio ar y prosiect er mwyn peilota’r pecynnau bwyd a diod arloesol hyn. Gall hyn fod yn unigolion neu’n glwstwr o gynhyrchwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar y cynnig.

Maent hefyd yn chwilio am amrywiaeth o berchnogion lletai hunan-arlwyo fyddai â diddordeb mewn darparu’r pecynnau hyn i’w cwsmeriaid. Bydd y darparwyr hyn yn dewis pa gyflenwyr i weithio gyda nhw ac mae ganddynt hawl i ddewis mwy nag un o’r cyflenwyr. 

Bydd y cynllun yn rhedeg tan fis Mehefin 2023 gyda’r mwyafrif o weithgaredd yn digwydd yn ystod tymor twristiaeth 2022. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Menter Môn - Neges (mentermon.com) , neu cysylltwch â Rhys Gwilym ar 07376431442 neu drwy ei ebostio rhys@mentermon.com

Bydd angen i unrhyw ddatganiad o ddiddordeb fod wedi cael ei neud trwy lenwi’r ffurflen gais erbyn y 30ain o Dachwedd 2021. 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.