BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i’r rheolau os ydych yn mewnforio cynnyrch anifeiliaid drwy borthladdoedd Cymru

A ydych yn mewnforio cynnyrch anifeiliaid drwy borthladdoedd Cymru? O’r 1 Ionawr ymlaen bydd y rheolau'n newid. Efallai y bydd angen i chi roi gwybod ymlaen llaw i'ch mewnforion. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ofyniad o 1 Ionawr 2023 i o rag-hysbysu ar gyfer cynhyrchion IPAFFS sy'n tarddu o anifeiliaid a phlanhigion a chynnyrch planhigion sy'n cael eu rheoleiddio ac sy'n hysbysadwy, nad ydynt eisoes yn destun rhag-hysbysiad, sy'n cyrraedd o Iwerddon. Bydd rhag-hysbysu yn parhau yn ofynnol ar gyfer anifeiliaid byw, planhigion â blaenoriaeth uchel, bwyd risg uchel a bwyd anifeiliaid nad yw yn tarddu o anifeiliaid.

Bydd hyn yn golygu y bydd angen i fewnforwyr nwyddau sy'n teithio i Gymru o Weriniaeth Iwerddon nodi gwybodaeth gyfyngedig am eu llwythi yn y system IPAFFS ar-lein. Ni fydd angen unrhyw waith papur nac ardystiad. 

Bydd mewnforwyr sy'n defnyddio porthladdoedd Cymru yn gyfarwydd â rhag-hysbysu gan iddynt baratoi ar ei gyfer ym mis Ionawr 2022 ac eto ym mis Gorffennaf 2022 er iddo gael ei ohirio ar fyr rybudd braidd.

Mae'r rhai sy'n mewnforio o gyfandir yr UE neu rHywle arall yn y byd eisoes yn rhoi gwybod ymlaen llaw am yr holl nwyddau SPS.

Bydd cyflwyno rhag-hysbysiad ar gyfer y nwyddau hyn yn darparu data werthfawr i swyddogion y llywodraeth ac awdurdodau gorfodi perthnasol, megis awdurdodau lleol.

Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid sicrhau bod isadeiledd y ffin ac adnoddau staffio yn briodol i ateb y galw disgwyliedig a darparu gwerth-am-arian i fewnforwyr, trethdalwyr a defnyddwyr. 

Byddai Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i glywed eich barn am y newid hwn, gallwch weld y llythyr ymgynghori gan weinidogion Cymru Diwygiadau i reolau ynghylch gwiriadau iechydol a ffytoiechydol (SPS) mewn perthynas â mewnforion o nwyddau o’r UE sy’n teithio i Gymru o Weriniaeth Iwerddon | LLYW.CYMRU

Anfonwch e-bost at BorderInfrastructureProgramme@llyw.cymru gyda’ch ymateb erbyn 11 Tachwedd 2022.

Gall mewnforwyr sydd heb gofrestru ac sy’n gyfarwydd â’r system IPAFFS ar gyfer rhag-hysbysu ddilyn y canllawiau isod:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.