BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau pellach i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi datgan y newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru gan ei gwneud yn haws i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod yn yr awyr agored.

O ddydd Llun  3 Awst 2020 ymlaen, bydd hyd at 30 o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ac ni fydd plant dan 11 oed yn gorfod cadw 2m o bellter oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion mwyach, yn unol â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am gyfraddau trosglwyddo is ymhlith y grŵp oedran hwn.

Bydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn cael ailagor dan do o ddydd Llun ymlaen, a hefyd lawntiau bowlio dan do, tai ocsiwn a neuaddau bingo.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.