BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Oes angen Cymorth Lles arnoch ar gyfer eich Gweithwyr?

Wedi’i leoli yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, mae’r tîm Lles drwy Waith yn cyflwyno Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ledled Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae’r Gwasanaeth hefyd yn darparu Rhaglenni Iechyd yn y Gweithle am ddim i fusnesau bach a chanolig lleol sydd eisiau gweithredu’n rhagweithiol er mwyn hybu a chefnogi iechyd a lles staff.

Fel rhan o’u Rhaglenni Iechyd yn y Gweithle rhad ac am ddim, maen nhw’n cynnig amrywiaeth o Weithdai Lles rhwng mis Mehefin a mis Medi 2021 ar gyfer perchnogion/rheolwyr/goruchwylwyr busnes, yn ogystal â sesiynau ymwybyddiaeth lles yn y gweithle i staff, gan gynnwys:

  • Eistedd Llai, Symud Mwy – Cyngor i Weithwyr Eisteddol
  • Menopos a Meddwlgarwch 
  • Herio Ffyrdd o Feddwl Di-fudd yn ystod COVID-19
  • Ymdopi ag Ynysu yn ystod COVID-19
  • Covid Hir – Dychwelyd i’r Gwaith ar ôl COVID-19
  • Rheoli Straen yn y Gweithle yn ystod COVID-19
  • Cadw’n Ffit ac yn Iach – Cyngor i Weithwyr Hŷn
  • Addasu i Newid a Pharatoi ar gyfer y Dyfodol yn ystod COVID-19

I gofrestru ar gyfer y gweminarau, ewch i wefan Eventbrite.

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Lles drwy Waith ar gael drwy’r ddolen ganlynol: http://www.wellbeingthroughwork.org.uk/cy/

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.