BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Paratowch ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2022!


 

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2022
Diweddarwyd diwethaf:
6 Medi 2023

Bydd Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni yn cael ei gynnal ddydd Iau, 6 Hydref 2022. Mae ymgyrch #TickTheBox, sydd bellach yn ei phumed flwyddyn, yn codi ymwybyddiaeth am beth yw Rhodd Cymorth a pha mor hanfodol yw hi i elusennau.

Gwahoddir pob elusen i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ar eich gwefan ac yn eich cylchlythyrau, yr effaith y mae Rhodd Cymorth yn ei chael ar y bobl a'r cymunedau rydych chi'n eu gwasanaethu.

A beth bynnag yw diben eich elusen, mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn gyfle arall i ddangos y pethau anhygoel rydych chi'n eu gwneud i'ch cefnogwyr, diolch i'r rheiny sy'n #TickTheBox. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Charity Finance Group | Knowledge Hub (cfg.org.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.