BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Parhau i symud eich nwyddau i mewn neu allan o’r UE – Gair o Gyngor

Daeth rheolaeth tollau llawn i rym ar 1 Ionawr 2022. Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), efallai y byddwch chi’n cael eich effeithio.

Os oes gennych chi gwestiwn penodol am fewnforio, allforio neu ryddhad tollau ffoniwch linell gymorth Tollau a Masnach Ryngwladol ar 0300 322 9434. Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 10pm ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8am a 4pm ar benwythnosau. Gallwch hefyd anfon eich cwestiynau neu gysylltu â nhw drwy wesgwrsio.  

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Allforio yn llinell gymorth newydd ar gyfer busnesau’r DU sy’n cynnig atebion i gwestiynau ymarferol am allforio i Ewrop. Mae’r gwasanaeth yn siop un stop ac yn dwyn ynghyd wybodaeth gan lywodraeth y DU, gan ei gwneud hi’n haws i allforwyr gael mynediad at gyngor a chymorth.

Ewch i sianel YouTube CThEM

Mae gan sianel YouTube CThEM fideos a gweminarau wedi’u recordio am brosesau tollau a’r hyn sydd angen i chi ei wneud cyn i chi fasnachu nwyddau gyda’r UE.

Gwyliwch y gweminar wedi’i recordio ar Reolau tarddiad i ddeall y broses a’r hyn sydd angen i chi ei wneud os ydych chi’n prynu gan, yn anfon neu’n gwerthu nwyddau i’r UE.

Gwybodaeth ddefnyddiol


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.