BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecyn Adnoddau Menopos yn y Gweithle

Mae gweithlu’r DU yn heneiddio. Mae pobl eisiau ac angen gweithio am gyfnod hirach ac mae angen i gyflogwyr wneud defnydd mwy effeithiol o weithlu hŷn. Mae hyn yn arbennig o wir o safbwynt menywod - nhw sydd wedi sbarduno’r prif dwf yn y gweithlu hŷn yn ystod y degawd diwethaf. Mae llawer o fenywod bellach yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl rhoi genedigaeth ac mae diwygio’r system bensiynau wedi ymestyn bywydau gwaith menywod. Bellach, mae pum miliwn o fenywod dros 50 oed yn y gweithle, a bydd llawer yn mynd drwy’r menopos.

Mae cyflogwyr bellach yn deall pwysigrwydd cefnogi gweithwyr yn ystod y menopos er mwyn cadw gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwerthfawr o fewn demograffeg gweithlu allweddol. Mae profiad y cyflogwyr blaenllaw hyn wedi dangos bod camau syml yn aml, fel addysg a chodi ymwybyddiaeth, yn gallu gwneud y byd o wahaniaeth.

Mae’r Pecyn Adnoddau Menopos yn y Gweithle wedi’i lunio gan Busnes yn y Gymuned (BITC) mewn cydweithrediad â’r Brifysgol Agored, Prifysgol Bryste a Phrifysgol De Montfort.

Cynhelir Diwrnod Menopos y Byd ar 18 Hydref 2021 ac mae BITC yn sicrhau y bydd  y Pecyn Adnoddau Menopos ar gael i bawb yn ystod mis Hydref 2021.

Mae’n rhoi blas ar sut mae’r menopos yn effeithio ar fenywod yn y gweithle ac yn cynnwys gwybodaeth am:

  • leihau costau busnes
  • beth all cyflogwyr ei wneud i helpu
  • adnoddau ychwanegol

Am ragor o wybodaeth, ewch i Menopause in the Workplace - Business in the Community (bitc.org.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.