BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecyn adnoddau seiber i gefnogi manwerthwyr i wella eu hamddiffynfeydd

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Chonsortiwm Manwerthu Cymru wedi lansio Pecyn Adnoddau Cadernid Seiber ar gyfer Manwerthu, sef canllawiau i’w rhoi ar waith sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer arbenigwyr mewn meysydd ar wahân i seiber, fel aelodau Bwrdd, y rhai sydd mewn swyddi strategol, a busnesau newydd.

Mae’n tynnu sylw at y bygythiadau sy’n wynebu manwerthwyr, cwestiynau allweddol i’w hystyried wrth ddatblygu strategaethau cadernid seiber a chanllawiau ar y mathau o fesurau diogelwch y dylai manwerthwyr eu rhoi ar waith.

Mae’r pecyn adnoddau yn amlinellu’r camau a argymhellir ar gyfer manwerthwyr er mwyn:

  • atal achosion o danseilio diogelwch drwy fesurau diogelu cryfach
  • paratoi i liniaru effaith tanseilio diogelwch llwyddiannus
  • dod dros ymosodiad seiber
  • datblygu ac ymwreiddio diwylliant cadernid seiber positif ar lefel Bwrdd

Gallwch lawrlwytho’r pecyn adnoddau ac am ragor o wybodaeth, ewch i wefan NCSC.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.