
Mae #PitchItCymoedd wedi cael ei lansio ar y cyd ag Angylion Buddsoddi Cymru, Banc Datblygu Cymru, Llywodraeth Cymru, Ein Cymoedd Ein Dyfodol a #CreuSbarc i roi cyfle i entrepreneuriaid gynnig syniad yn fyw o flaen panel o fuddsoddwyr uchel eu parch i gael hyd at £75,000 o fuddsoddiad ecwiti yn ogystal â chymorth parodrwydd buddsoddwyr, a mentora arbenigol.
Bydd y sesiwn gyntaf o syniadau yn cael ei chynnal ar 20 Mehefin 2019 yng Ngholeg y Cymoedd, Campws Aberdâr.
Yn y digwyddiad ym mis Mehefin, bydd 5 o entrepreneuriaid yn cael eu dewis ar gyfer y sesiwn syniadau derfynol ym mis Tachwedd 2019.
Cyflwynwch eich cais drwy anfon tudalen am eich busnes i hello@bethespark.info.
Bydd y ceisiadau’n cau ar 24 Mai 2019.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Creu Sbarc.