BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Plan It With Purpose: cyflawni’ch nodau cynaliadwyedd

Mae Enterprise Nation yn gweithio mewn partneriaeth ag Aviva a Smart Energy GB i helpu busnesau i weithredu arferion gorau cynaliadwy sy’n sicrhau effaith bositif ar y blaned, cymdeithas a’r economi.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi busnesau bach a chanolig a pherchnogion busnes drwy gynyddu eu dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a chymdeithasol yn y DU, gan ddangos modelau rôl priodol, meithrin mentrau cynaliadwy ac annog newid drwy adnoddau, cynlluniau gweithredu ac argymhellion wedi’u teilwra.

Os ydych chi’n barod i ddechrau neu wella effaith eich busnes ar y blaned, ewch i hyb yr ymgyrch Plan It With Purpose i ddarganfod adnoddau wedi’u teilwra.

Mae gweithredu mewn ffordd gyfrifol yn amgylcheddol yn ddyletswydd gyfreithiol. Mae pob busnes yn gyfrifol am gydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol amrywiol i leihau effaith eich busnes ar yr amgylchedd. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol i wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith bositif ar y bobl a’r lleoedd o’u cwmpas, ynghyd ag ymuno â chymuned sy’n tyfu o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.