BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Plant Cymru i elwa ar fuddsoddiad o £100 miliwn mewn gofal plant

Mae buddsoddiad sylweddol o bron i £100 miliwn yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wella argaeledd gofal plant, cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ac ariannu llefydd rhan-amser am ddim.

Mae’r cyllid yn cynnwys £26 miliwn ar gyfer cam nesaf ehangu gofal plant rhan-amser Dechrau’n Deg; £70 miliwn ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw hanfodol fydd ar gael i bob lleoliad gofal plant a £3.8 miliwn i gefnogi mwy o ddarparwyr gofal plant i wella eu darpariaeth Gymraeg.

Mae’r buddsoddiad yn rhan o gynllun graddol i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sydd yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac mae’n cynnwys gofal plant safonol rhan-amser am ddim i blant rhwng dwy a thair oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai hyd at 2,500 yn fwy o blant yn gymwys ar gyfer gwasanaethau Dechrau’n Deg ar draws Cymru. Dechreuodd cam cyntaf y rhaglen ledled Cymru ddechrau mis Medi.

Bydd ail gam yr ehangu yn gwneud mwy na 3000 yn fwy o blant dwy oed yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg o fis Ebrill 2023, gyda £11.65 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer 2023/24 a £14.3 miliwn ar gyfer 2024/25. Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn ystyried pa ardaloedd fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o gam dau, a bydd teuluoedd cymwys yn cael gwybod am hynny yn y flwyddyn newydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Plant Cymru i elwa ar fuddsoddiad o £100 miliwn mewn gofal plant | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.