Bydd Gŵyl Caffael Cyhoeddus flynyddol Cymru yn dychwelyd ar ddydd Iau, 8 Tachwedd 2018 yng Motorpoint Arena, Caerdydd.
Procurex Cymru 2018 yw’r digwyddiad caffael mwyaf yn y wlad. Mae Procurex Cymru 2018, sy’n rhan o ŵyl Caffael Cymru, wedi’i gynllunio’n arbennig i helpu’r prynwyr a’r cyflenwyr i wynebu heriau caffael y sector cyhoeddus heddiw ac yn y dyfodol.
Mae nodweddion Procurex Cymru 2018 yn cynnwys:
-
arddangosfa cynnyrch
-
y brif arena
-
parthau hyfforddi
-
ardal cyngor ar gaffael
-
pafiliwn canolfan arbenigedd Llywodraeth Cymru
Dyma’r digwyddiad caffael hanfodol eleni i unrhyw un sy’n ymwneud â chaffael yn y sector preifat, sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd a'r trydydd sector a thocynnau'r sector preifat yn costio £ 95 a TAW.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Procurex Cymru.