BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£120 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan Omicron

Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i ddiogelu Cymru.

Fersiwn ddiwygiedig o lefel rhybudd 2 yw’r mesurau er mwyn ymateb i’r amrywiolyn omicron newydd. Eu nod yw helpu i gadw busnesau ar agor a diogelu cwsmeriaid a staff.

Bydd busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym feirws Omicron yn gymwys i gael cymorth ariannol brys o dan becyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi manylion y £120 miliwn o gyllid a fydd ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi yr effeithiwyd arnynt gan y symudiad i rybudd lefel dau, fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mercher 22 Rhagfyr 2022.

O ganlyniad i'r pecynnau cymorth brys newydd, mae Llywodraeth Cymru yn tynnu ei Chronfa Datblygu Cymorth Busnes gwerth £35m yn ôl, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, er mwyn ail-ddyrannu a phrosesu taliadau brys cyn gynted â phosibl. Bydd yr holl gynigion presennol, wrth gwrs, yn cael eu hanrhydeddu.

O dan y pecyn diweddaraf, bydd gan fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n talu Ardrethi Annomestig hawl i daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol. Bydd angen i fusnesau ailgofrestru eu manylion, drwy broses ar-lein gyflym a hawdd, gyda'u hawdurdod lleol er mwyn derbyn eu taliadau.

Bydd cofrestru ar agor drwy wefannau awdurdodau lleol ar 13 Ionawr 2022.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cymorth hwn i fanwerthu nad yw'n hanfodol fel y bydd siopau llai, a Chwmnïau Teithio yn cael eu cefnogi ac y gall ein stryd fawr barhau i ffynnu. 

Hefyd, bydd busnesau lletygarwch a hamdden yr effeithir arnynt a'u cadwyni cyflenwi yn gallu gwneud cais am gyllid ychwanegol gan Gronfa Cadernid Economaidd newydd. Gall busnesau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £2,500 - £25,000, gyda’r grantiau yn dibynnu ar faint y cwmni a nifer y gweithwyr.

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ar 17 Ionawr 2022 gyda thaliadau'n dechrau cyrraedd busnesau o fewn dyddiau.

Bydd Awdurdodau Lleol hefyd yn gweinyddu cronfa Ddewisol ar gyfer busnesau ac unig fasnachwyr nad ydynt yn talu ardrethi. Bydd y gronfa'n darparu £1,000 i unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd a £2,000 i fusnesau sy’n cyflogi mewn sectorau yr effeithir arnynt.  Mae rhagor o fanylion i ddilyn ar Busnes Cymru erbyn dechrau 2022.

Bydd gwiriwr cymhwysedd a fydd yn helpu busnesau i nodi faint y gallant ddisgwyl ei gael o dan y pecyn cymorth newydd ar gael ar wefan Busnes Cymru erbyn dechrau 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru ac Datganiad Ysgrifenedig: £120 miliwn o gymorth brys i fusnesau (23 Rhagfyr 2021) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.