BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£13 miliwn i Undebau Llafur ddarparu cymorth dysgu ac uwchsgilio gweithwyr

Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd dros £13 miliwn yn helpu Undebau Llafur i ddarparu atebion sgiliau a chymorth dysgu i weithwyr dros y tair blynedd nesaf.

Mae rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) a rhaglen Addysg Undebau Llafur TUC Cymru yn cefnogi Undebau Llafur yng Nghymru i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y gweithlu, gyda phwyslais arbennig ar ddileu rhwystrau i ddysgwyr traddodiadol nad ydynt yn ddysgwyr.

Bydd cam nesaf y rhaglen yn adeiladu ar hyblygrwydd ac arloesedd y rhaglen yn ystod y pandemig, pan oedd yn canolbwyntio ar helpu gweithwyr a gafodd eu hadleoli i wahanol rolau, ffyrlo a cholli swyddi.

Bydd cam newydd rhaglen WULF yn gweld 18 undeb yn derbyn cyllid i ddarparu ystod o weithgareddau i uwchsgilio unigolion yn y gweithle a datblygu eu dyheadau gyrfaol.

Am ragor o wybodaeth ewch i £13 miliwn i Undebau Llafur ddarparu cymorth dysgu ac uwchsgilio gweithwyr | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.