BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pub is the Hub – grantiau cymunedol

Mae grantiau hyd at £3,000 ar gael i alluogi perchnogion tafarndai gwledig, trwyddedeion a chymunedau lleol i gydweithio i helpu i gefnogi a chynnal gwasanaethau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Bydd Cronfa Gwasanaethau Cymunedol Pub is the Hub yn cynorthwyo prosiectau sy'n cefnogi anghenion cymunedau lleol drwy ddefnyddio tafarndai i gynnig gwasanaeth newydd neu i gynnig gwasanaeth sydd eisoes wedi'i golli, megis siop leol, llyfrgell, swyddfa bost neu ganolfan gymunedol, neu’n annog tafarndai i gaffael cynnyrch lleol, darparu prydau ysgol, hyfforddiant TG a gwasanaethau eglwysig.

Bydd cyllid yn cefnogi prosiectau lle nad oes unrhyw gyllid lleol arall ar gyfer gwasanaethau yn bodoli ar hyn o bryd.
Gellir cyflwyno ceisiadau unrhyw bryd.

Am ragor o wybodaeth ewch i Pub is the Hub.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.