BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pwysigrwydd Lles i Berchnogion BBaChau

Mae Three Business wedi ffurfio partneriaeth â'r Samariaid i ddarparu cwrs Meithrin Lles a Gwydnwch ar gyfer perchnogion busnesau bach. Bydd y cwrs ar-lein am ddim yn darparu strategaethau ymarferol i berchnogion busnesau bach gryfhau eu gwydnwch personol a gwella eu lles.

Cewch glywed gan un perchennog BBaCh a fydd yn rhannu ei brofiad o oresgyn amseroedd anodd a chlywed gan y Samariaid am y gefnogaeth sydd ar gael.

Cynhelir y gweminar am ddim ar 2 Tachwedd 2022 am 2pm.

I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol The Importance of Wellbeing for SME Business Owners Tickets, Wed 2 Nov 2022 at 14:00 | Eventbrite


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.