BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach

Mae Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach Cymdeithas Marchnata'r Celfyddydau, yn lansio yng Nghymru am y tro cyntaf ym mis Tachwedd eleni, mewn partneriaeth â Creu Cymru a diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a nawdd gan Ticketsolve.

Mae Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach yn helpu sefydliadau i nodi modelau busnes cadarn a ffyrdd newydd o ddatblygu eu cynulleidfaoedd ar gyfer llwyddiant cynaliadwy hirdymor. Mae wedi rhedeg yn llwyddiannus yn Lloegr ers sawl blwyddyn ac mae'n lansio yng Nghymru mewn ymateb i geisiadau gan aelodau Cymraeg y Gymdeithas Marchnata’r Celfyddydau.

Drwy'r rhaglen hon bydd y Gymdeithas Marchnata’r Celfyddydau’n helpu arweinwyr sefydliadau bach yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol gan ddefnyddio methodoleg profedig. Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfres o 6 o weithdai ar-lein drwy gydol mis Ionawr — Mawrth 2022. 

Bydd yn trafod fframwaith strategaeth farchnata, brand, deall cynulleidfaoedd, pennu amcanion, marchnata dwyieithog a marchnata hygyrch, cyfathrebu a mwy, gan ddod ag arbenigwyr a mentoriaid blaenllaw at ei gilydd i helpu i hyfforddi sefydliadau bach drwy'r broses o ddod yn fwy gwydn, cynaliadwy a pherthnasol i'w cynulleidfaoedd.

Mae Cymdeithas Marchnata’r Celfyddydau wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgu a chymorth yn agored i gynifer o bobl a sefydliadau â phosibl, ac mae hefyd wedi buddsoddi mewn adnoddau am ddim i gefnogi sefydliadau bach.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cymdeithas Marchnata’r Celfyddydau. Bydd cofrestru'n cau pan fydd y llefydd i gyd wedi mynd neu ar 12 Ionawr 2022, pa un bynnag sy'n dod gyntaf.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.