BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol

Mae'r Rhaglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol yn grant newydd a ariennir gan Cadw sy'n canolbwyntio ar atgyweirio adeiladau rhestredig sydd mewn perygl neu mewn cyflwr bregus; er mwyn diogelu eu harwyddocâd, gwella eu cyflwr, cefnogi defnydd buddiol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw yn y tymor hir.

Gall y Rhaglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol ariannu 50% o waith cymwys (hyd at uchafswm o £250,000) a'i nod yw buddsoddi cyfalaf hanfodol mewn treftadaeth sydd mewn perygl i helpu perchnogion a cheidwaid i ddiogelu am adeiladau rhestredig sydd mewn perygl i'r dyfodol er budd y gymuned ehangach.

Bydd y cynllun yn gweithredu proses ymgeisio dau gam:

  • Cam 1 Gwahoddiad i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (EOI)
  • Cam 2 Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus baratoi a chyflwyno cais llawn

Rhaid i geisiadau ail gam fod yn gyson â'r cynigion a amlinellir yn y Datganiad o Ddiddordeb cymeradwy.

Bydd camau 1 a 2 yn gystadleuol ac nid yw Datganiad o Ddiddordeb llwyddiannus yn gwarantu cyllid yng Nghyfnod 2.

Dyma amserlen y cynllun grant:

  • Cam 1 Datganiadau o Ddiddordeb (EOI) erbyn: 23 Rhagfyr 2022
  • Cam 1 Penderfyniadau Datganiadau o Ddiddordeb Cyhoeddir erbyn: 10 Chwefror 2023

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Rhaglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol | Cadw (llyw.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.