BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Rheoli Darbodus Toyota 2020

Gall cwmnïau yn y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ddysgu am Reoli Darbodus drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru i annog cyfranogiad yn Rhaglen Rheoli Darbodus Toyota, a gyflwynir gan Toyota. Mae'r rhaglen yn cynnwys Cychwyn Darbodus (Lean Start) a Phrosiect Darbodus (Lean Project).

Mae Cychwyn Darbodus yn weithdy diwrnod a hanner yn TLMC Glannau Dyfrdwy, gydag ymweliad dilynol hanner diwrnod ar y safle gan beirianwyr Toyota. Ar ôl 50% o gefnogaeth Llywodraeth Cymru, y gost yw £378* yr un + TAW.

Mae Prosiect Darbodus yn weithdy sy'n dilyn gweithdy Cychwyn Darbodus yn awtomatig. Byddwch yn cael 3 diwrnod o gymorth diagnostig gan beirianwyr Toyota i ganfod y cyfleoedd ar gyfer gwneud gwelliannau. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu am y gost yn llwyr.

Bydd uwch reolwyr a'r rhai sy'n cynrychioli cwmnïau yn cael cyfle unigryw i brofi a dysgu am System Gynhyrchu Toyota (TPS) a Dull Toyota o wella cynhyrchiant, diogelwch ac ansawdd tra'n cael gwared ar y gwastraff a'r gweithgarwch nad yw'n cynnig gwerth ychwanegol.  

Bydd technegau efelychu, arsylwi ar y safle a thrafodaethau â pheirianwyr Toyota yn helpu i ddeall ystyr elfennau allweddol o TPS ac yn rhoi syniad i chi o sut mae rhoi hyn ar waith.

Bydd y rhai sy'n bresennol hefyd yn deall camau'r broses, materion strategol allweddol a'u rôl eu hunain wrth arwain trawsnewid darbodus.

Dim ond lle i 15 person sydd ym mhob gweithdy, felly dim ond 3 i 4 all ddod o bob Cwmni. Os bydd gormod o bobl yn dangos diddordeb yn unrhyw un o'r gweithdai, byddwn yn cynnig dyddiadau eraill i chi.   

Y dyddiadau ar gyfer 2020 yw:

  • 18 Mai i 19 Mai
  • 6 Gorffennaf i 7 Gorffennaf
  • 19 Hydref i 20 Hydref

I drefnu eich lle, neu i gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at  AMMTLMC@llyw.cymru

 * Mae Rheolau Cymorth De Minimus yn berthnasol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.