Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Ffoniwch 03000 6 03000

Rhaglen Sbarduno - Basque Industry 4.0

Rhaglen sbarduno gyhoeddus/preifat yng Ngwlad y Basg yw Basque Industry 4.0 (Bind 4.0). Targedir y rhaglen tuag at y busnesau newydd gorau a all ddarparu atebion sy’n seiliedig ar dechnolegau diwydiant 4.0 (data mawr, rhith-wirionedd / realiti estynedig, roboteg gydweithredol, seiberddiogelwch, rhyngrwyd pethau, argraffu 3D ac ati) sy’n cael eu defnyddio yn y sectorau ynni, iechyd, technoleg bwyd a gweithgynhyrchu uwch.

Mae’r rhaglen yn cynnig gwasanaethau cynnal rhagorol ac yn gwarantu y bydd prosiectau’n cael eu datblygu â chwmnïau mawr sy’n amlwg yng Ngwlad y Basg. Mae’r rhain yn cynnwys Mercedes-Benz Vitoria, ABB, Bridgestone, Iberdrola, Repsol-Petronor, Michelin, a Danobat Group.

Mae’r rhaglen arloesol hon yn rhoi hwb i gynnwys busnesau newydd rhyngwladol yn un o ecosystemau diwydiannol mwyaf bywiog Ewrop, gan sicrhau contractau busnes a chyfleoedd cydweithio â chwmnïau diwydiannol mawr.

Bydd BIND 4.0, y rhaglen sbarduno gyntaf i warantu contractau pwysig â chwmnïau mawr, yn cael ei chyflwyno yn Tramshed Tech, Caerdydd ar ddydd Mawrth, 23 Gorffennaf 2019, rhwng 5pm a 8pm.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ac i neilltuo lle, ewch i wefan Eventbrite.

Gall arloesi helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant a mentro i farchnadoedd newydd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r tudalennau Arloesi ar wefan Busnes Cymru.

Share this page: 
Region: 
Conversion pixel