BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheolaethau tollau llawn yn dechrau ar 1 Ionawr 2022

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi ysgrifennu at fasnachwyr i'w hatgoffa o'r newidiadau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2022 a sut y gallent effeithio ar y ffordd y caiff nwyddau eu mewnforio a'u hallforio rhwng Prydain a'r UE.

Gallwch ddarllen y llythyr hwn, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn drwy fynd i GOV.UK

Trefniadau dros dro ar gyfer symudiadau o Iwerddon a Gogledd Iwerddon

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd y trefniadau tollau presennol ar gyfer nwyddau sy'n symud o Iwerddon a Gogledd Iwerddon i Brydain yn cael eu hymestyn cyhyd â bod trafodaethau rhwng y DU a'r UE ar weithredu Protocol Gogledd Iwerddon (NIP) yn parhau. 

Mae hyn yn golygu y bydd rheolaethau tollau llawn yn cael eu cyflwyno fel y bwriadwyd ar 1 Ionawr 2022 ar gyfer nwyddau sy'n symud rhwng gweddill yr UE a Phrydain, ac ar gyfer nwyddau sy'n cael eu hallforio o Brydain i Iwerddon.

Os byddwch chi'n symud nwyddau i mewn neu allan o Ogledd Iwerddon, gall gwasanaeth am ddim Trader Support Service eich tywys drwy'r broses. 

Lle i gael cymorth mewnforio ac allforio

Mae gan CThEM amrywiaeth o weminarau a fideos YouTube ar fewnforio ac allforio gyda'r UE - ewch i'w tudalen help and support for UK transition.

Os ydych chi'n allforio i'r UE, mae cymorth rhad ac am ddim ar gael dros y ffôn ac ar-lein gan yr Export Support Service. Mae rhagor o fanylion ar gael ar GOV.UK neu drwy ffonio 0300 303 8955.

Mae cynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid CThEM ar gael i ateb eich cwestiynau ar linell gymorth Customs and International Trade (CIT). Byddant yn eich helpu gyda mewnforio, allforio a rhyddhad tollau. Gweler oriau agor safonol llinell gymorth CIT dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd isod – gallwch ffonio 0300 322 9434 i siarad â chynghorydd.

  • 29-31 Rhagfyr: 8am i 10pm 
  • 1-3 Ionawr: 8am i 4pm 
  • 4 Ionawr ymlaen: oriau agor arferol

Os ydych chi angen cymorth ar frys gyda nwyddau ar y ffin y tu allan i'r oriau hyn, bydd y llinell gymorth yn dargyfeirio eich galwad i gymorth 24/7 – dewiswch opsiwn un wedyn.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.