BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheolau cofnodi trethi ar gyfer platfformau digidol

Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar weithrediad Rheolau Cofnodi Model ar gyfer Platfformau Digidol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Eonomaidd (OECD) sy’n ei gwneud yn ofynnol i blatfformau digidol gofnodi manylion incwm eu gwerthwyr ar eu platfform i’r awdurdod treth a hefyd i’r gwerthwyr.

O fis Ionawr 2023, bydd y rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i blatfformau gofnodi gwybodaeth am incwm gwerthwyr sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau i helpu gwerthwyr i gael eu trethi yn iawn a galluogi CThEM i ganfod a mynd i’r afael â diffyg cydymffurfiaeth.

Mae Llywodraeth y DU yn gwahodd sylwadau gan blatfformau digidol sy’n hwyluso darpariaeth gwasanaethau, fel gwasanaethau tacsi a llogi preifat, gwasanaethau dosbarthu bwyd, gwaith llawrydd a gosod llety, ynghyd â’r rhai sy’n hwyluso gwerthiant nwyddau a rhentu trafnidiaeth. Maent hefyd yn croesawu safbwyntiau gan sefydliadau neu gyrff sy’n cynrychioli platfformau neu fusnesau yn yr economi rhannu neu'r economi gig.

Bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd o ddiddordeb i unigolion a chwmnïau sy’n darparu gwasanaethau o’r fath yn defnyddio platfformau digidol.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 22 Hydref 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.