BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35)

Aeth dros flwyddyn heibio ers i reolau gweithio oddi ar y gyflogres(IR35) newid yn y sectorau preifat a gwirfoddol.  

Efallai y bydd angen i rai sefydliadau sy'n cyflogi contractwyr yn y sectorau hynny nad oedd angen iddynt gymhwyso'r rheolau ar gyfer 2021-22 gan nad oeddent yn bodloni'r amodau maint — gymhwyso'r rheolau erbyn hyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r Llawlyfr Statws Cyflogaeth i weld a yw'r rheolau'n berthnasol i'ch busnes bob blwyddyn. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych: 

  • yn fusnes sydd newydd ei ffurfio 
  • wedi cael eich prynu gan sefydliad arall 
  • wedi tyfu o ran maint dros y blynyddoedd diwethaf  

Os ydych yn newydd i'r rheolau, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi ddarllen y camau sydd eu hangen i weithredu rheolau gweithio oddi ar y gyflogres.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i GOV.UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.