BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheoli camddefnydd o gyffuriau ac alcohol yn eich gweithle

Ydych chi’n gwybod sut i reoli camddefnydd o gyffuriau ac alcohol yn y gwaith?

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i warchod iechyd, diogelwch a lles eu cyflogeion.

Bydd deall arwyddion camddefnydd o gyffuriau ac alcohol (neu gam-drin) yn eich helpu i reoli’r risg i iechyd a diogelwch yn eich gweithle.

Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gyfarwyddyd cam wrth gam i’ch helpu chi i reoli camddefnydd o gyffuriau ac alcohol yn y gwaith.

Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i ddatblygu polisi ar gyffuriau ac alcohol a beth allwch chi ei wneud i gefnogi cyflogeion.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Managing drug and alcohol misuse at work - Overview - HSE
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.