
Gall busnesau bach a chanolig arbed rhwng 20 a 30% o’u costau ynni yn hawdd, a gwella eu llinell waelod, drwy roi mesurau effeithlonrwydd ynni ar waith.
Mae’r weminar hon wedi’i hanelu’n benodol at fusnesau bach a chanolig yng Nghymru i’w helpu i arbed arian ac ynni, yn ogystal â lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd drwy reoli ynni’n dda a defnyddio technolegau arbed ynni cost-effeithiol.
Caiff ei gyflwyno gan arbenigwr o Gronfa Benthyciadau Effeithlonrwydd Ynni yr Ymddiriedolaeth Carbon a bydd yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau eraill a chyfleoedd cyllido sydd ar gael.
Cynhelir y weminar am ddim ddydd Mercher 26 Chwefror rhwng 11am a 12pm.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y weminar, ewch i wefan Carbon Trust.
Gallwch hefyd gofrestru yma i gael cyfres e-bost pum rhan yr Ymddiriedolaeth Garbon, sy’n rhoi mynediad am ddim at offer, canllawiau ac awgrymiadau i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, er mwyn helpu i leihau costau a gwella effeithlonrwydd ynni.
Beth am gofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru i gael cymorth arbenigol ynghylch cynaliadwyedd.