
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio rhestr wirio hunanasesu a fydd yn helpu masnachwyr unigol ac unigolion hunangyflogedig i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data newydd.
Bwriad y rhestr wirio yw gwella dealltwriaeth o ddiogelu data a sicrhau bod masnachwyr unigol yn cadw data personol pobl yn ddiogel.
Bydd y rhestr wirio yn dangos pa mor dda maen nhw’n cydymffurfio drwy greu sgôr yn seiliedig ar eu hymatebion, a bydd yn darparu dolenni defnyddiol i ganllawiau perthnasol a gwybodaeth bellach gan yr ICO. Mae hefyd yn cynnwys awgrymiadau ymarferol ar sut i gydymffurfio â’r gyfraith.
Am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad at y rhestr wirio, ewch i wefan yr ICO.
Beth am gymryd golwg ar dudalennau TG Busnes Cymru am gymorth TG ymarferol ar gyfer eich busnes.